1-4aO Arglwydd, gwaeddaf, brysia ataf fi;
Gwrando fy llef pan alwaf arnat ti.
Bydded fy ngweddi’n arogldarth o’th flaen,
Ac offrwm hwyrol fo fy nwylo ar daen.
Dros ddrws fy ngenau, Arglwydd, gwylia di;
Rhag pob gweithredoedd drwg, O cadw fi.
4b-5Mae rhai sy’n gwneud drygioni fwy a mwy;
Na ad im fwyta o’u danteithion hwy.
Cerydded y rhai cyfiawn fi heb sen,
Ond nad eneinied olew’r drwg fy mhen;
Oherwydd mae fy ngweddi i o hyd
Yn llef yn erbyn holl ddrygioni’r byd.
6-8aPan fwrir oddi ar graig eu barnwyr oll,
Cânt wybod imi draethu’r gwir di-goll.
Yng ngheg Sheol y bydd eu hesgyrn gwyw,
Fel darnau pren neu graig; ond mi, O Dduw,
A drof fy llygaid beunydd atat ti,
Ac ynot, Arglwydd, y llochesaf fi.
8b-10Na ad fi heb amddiffyn; cadw fi
Rhag y peryglon sydd i’m maglu i,
Rhag gafael pob rhyw rwyd neu fagl a rydd
Gwneuthurwyr drwg ar hyd fy ffordd yn gudd.
Boed i’r drygionus syrthio i’w rhwydau’u hun,
A minnau yn mynd heibio i bob un.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.