Salmau 59 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 59Duw, fy nerthLlanfair 74.74 D

1-4O fy Nuw, amddiffyn fi

Rhag gwŷr cryfion

Sydd yn bygwth f’einioes i

Â’u cynllwynion.

Heb fod pechod ynof fi,

Maent yn chwennych

Fy nifetha, cyfod di,

Tyrd ac edrych.

5-7Arglwydd Dduw y Lluoedd, ti

Yw Duw Israel.

Cosba’r bobloedd sydd â ni

Yn ymrafael.

Dônt fin nos drwy’r dref fel cŵn

Wynebgaled,

Gan fytheirio’n fawr eu sŵn:

“Pwy sy’n clywed?”

8-10Ond fe’u gwawdi di, fy Nuw,

Hwy a’u hyfdra.

O fy Nerth, ti’n unig yw

F’amddiffynfa.

Sefi di o’m plaid, heb os,

Arglwydd graslon;

Rho im fuddugoliaeth dros

Fy ngelynion.

11-15Paid â’u lladd, ond gwasgar hwy,

A’u darostwng,

Am fod geiriau’u genau’n fwy

Nag annheilwng.

Am eu balchder mawr a’u bri

Tyrd i’w cosbi,

Fel y gwelo’r byd mai ti

Sy’n rheoli.

16-17Canaf innau am dy nerth

A’th uniondeb;

Gorfoleddu a wnaf yng ngwerth

Dy ffyddlondeb.

Buost amddiffynfa i mi

Mewn cyfyngder.

Canaf byth fy mawl i ti,

Dduw, fy Nghryfder.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help