Salmau 72 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 72Gweddi am frenhiniaeth gyfiawnMorning has broken 10.9.10.9

1-3Dyro, O Dduw, dy ddeddfau i’r brenin.

Barned dy bobl a’th dlodion yn iawn,

Nes daw cyfiawnder inni o’r bryniau,

Ac o’r mynyddoedd heddwch yn llawn.

4-6Boed iddo warchod achos y tlodion.

Boed, tra bo haul, i’w linach barhau.

Bydded fel glaw yn disgyn yn gawod

Ar gnwd y ddaear i’w lwyr ddyfrhau.

7-9Hedd a chyfiawnder fo yn ei ddyddiau.

Boed ei lywodraeth o’r Afon fawr

Hyd eitha’r byd. Ymgrymed gelynion

Iddo, a llyfu’r llwch ar y llawr.

10-11Deued brenhinoedd Sheba a Seba,

Tarsis a’r holl ynysoedd i gyd

Â’u teyrnged iddo, ac ymostynged

Ger ei fron holl genhedloedd y byd.

12-14Canys tosturia wrth yr anghenus,

Ac wrth y gwan, na all achub ei hun.

Gwared y tlodion rhag trais a gormes,

Cans fe’u hystyria’n werthfawr bob un.

15-16Hir oes fo iddo. Bydded gweddïau

Drosto, a bendith arno o hyd.

Bydded i’w gnydau dyfu fel cedrwydd

Lebanon; bydded digon o ŷd.

17-19Cyhyd â’r haul parhaed ei enw’n

Fendith cenhedloedd, ac ef yn ben.

A bendigedig fyddo Duw Israel,

A’r byd yn llawn o’i fawredd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help