Salmau 118 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 118Emyn o DdiolchgarwchFather, I place into your hands 86.86.86.9

1-4Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr,

Cans ffyddlon yw o hyd.

Uned tŷ Aaron oll yn awr,

Ac Israel oll i gyd,

A phawb o’r rhai dros ddaear lawr

A’i hofna, i ddweud ynghyd:

“Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth”.

5-8Gwaeddais mewn ing, ac yna daeth

Yr Arglwydd i’m rhyddhau.

A Duw o’m tu, nid ofnaf waeth:

Pa ddyn all fy llesgáu?

A Duw o’m plaid, caf weld yn gaeth

Y rhai sy’n fy nghasáu.

Gwell rhoi ffydd yn Nuw nag yn nerth dyn.

9-12Gwell yw gobeithio yn Nuw yn llwyr

Nag mewn arweinwyr ffôl.

Daeth y cenhedloedd gyda’r hwyr,

Ond gyrraf hwy yn ôl.

Heidiant fel gwenyn o gylch cwyr,

Fel tân mewn drain ar ddôl;

Ond yn enw Duw gorchfygaf hwy.

13-16Gwthiwyd fi’n galed, nes fy mod

Ar syrthio, ond rhoes Duw

Gymorth i mi; fy nerth a’m clod

A’m gwaredigaeth yw.

Clywch gân achubiaeth heddiw’n dod

O bebyll y rhai byw:

“Mae deheulaw Duw yn rymus iawn”.

17-21Nid marw ond byw a fyddaf fi.

Adroddaf am ei waith.

Disgyblodd Duw fi’n llym, ond ni

Bu imi farw chwaith.

Agorwch byrth y deml i mi,

A rhoddaf ddiolch maith

I ti, Arglwydd, am fy ngwared i.

22-24Mae’r garreg y gwrthodwyd hi

Gan y penseiri i gyd

Yn bennaf conglfaen y tŷ,

A ninnau’n synnu’n fud.

Hwn ydyw dydd d’amlygu di

Yn Arglwydd yr holl fyd;

Gorfoleddwn ynddo a llawenhawn.

25-27aErfyniwn arnat, Arglwydd, clyw,

Ac achub, llwydda ni.

Sanctaidd a bendigedig yw

A ddaw yn d’enw di.

Rhoddwn yn awr o dŷ ein Duw

Ei fendith arnoch chwi.

Y mae’r Arglwydd, ein goleuni, yn Dduw.

27b-29Ymunwch â’r orymdaith fawr

At gyrn yr allor wiw.

Ti yw fy Nuw; diolchaf nawr;

Dyrchafaf di, fy Nuw.

Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr,

Cans Duw daionus yw;

Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help