1Saif ein Duw yng nghanol
Y cynulliad dwyfol;
Barna ymhlith y duwiau.
Gwrandewch ar ei eiriau.
2-3a“Pa hyd y camfarnwch?
Pa hyd y dangoswch
Ffafr at y drygionus?
Trowch at y truenus.
3b-4Rhoddwch eich dyfarniad
O blaid yr amddifad,
A gwaredu’r bregus
O law’r rhai drygionus.
5Ond am na ddeallwch,
Cerddwch mewn tywyllwch,
Ac am hyn, sylfeini’r
Ddaear a ysgydwir.
6-7Duwiau ydych; eto
Byddwch oll yn syrthio
Megis tywysogion
Marw fel meidrolion.”
8Barna di yn ebrwydd
Yr holl ddaear, Arglwydd,
Canys ti sy’n didol
Yr holl fyd a’i bobol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.