Salmau 75 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 75Disgwyl am farn DuwDowning MB

1Diolchwn iti, O Dduw,

Ac fe adroddwn ni,

Sy’n galw ar dy enw, am

Dy ryfeddodau di.

2-3“Pan ddaw yr amser, dof

I gywir farnu’r byd.

Pan dawdd y ddaear, daliaf fi

Ei holl golofnau i gyd.

4-5Dywedaf wrth y balch,

‘Na fyddwch yn drahaus’,

Ac wrth y drwg, ‘At Dduw, eich Craig,

Na fyddwch yn sarhaus’.”

6-7Ni ddaw o’r dwyrain help,

Nac o’r gorllewin chwaith,

Nac o’r anialwch, ond bydd Duw’n

Ein barnu yn ôl ein gwaith.

8Mae cwpan yn llaw Duw

Yn llawn o ddiod gref.

Fe’i rhydd i’r rhai drygionus oll,

A gwagiant hwythau ef.

9-10Ond molaf fi am byth

Dduw Jacob am ei fod

Yn tynnu y rhai drwg i lawr,

A’r cyfiawn yn cael clod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help