Salmau 99 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 99Dyrchafwch Dduw SeionBlaen-cefn 87.87.44.7

1-3Y mae’r Arglwydd Dduw yn frenin;

Cryna’r bobl, ysgydwa’r byd.

Fe’i gorseddwyd ef yn Seion

Goruwch y cerwbiaid mud.

Dyrchafedig

Ydyw. Moled

Pawb ei enw – sanctaidd yw.

4-5Frenin cryf, fe gâr gyfiawnder,

A sylfaenydd tegwch yw;

Gwnaeth uniondeb barn yn Jacob.

O dyrchafwch bawb ein Duw,

Ac ymgrymwch

Wrth ei droedfainc –

Sanctaidd, sanctaidd ydyw ef.

6-7Yr oedd Moses gynt, ac Aaron

Ymhlith ei offeiriaid ef;

Samuel yn broffwyd iddo;

Yn y golofn niwl o’r nef

Fe’u hatebodd,

A chadwasant

Dystiolaethau Duw a’i ddeddf.

8-9Arglwydd Dduw, rhoist ateb iddynt;

Duw yn maddau fuost ti,

Ond yn dial eu camweddau.

O dyrchafwch ein Duw ni,

Ac ymgrymwch

Yn ei fynydd –

Sanctaidd, sanctaidd yw ein Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help