1-3Fe’th glodforaf â’m holl galon;
Yng ngŵydd duwiau molaf di
Am dy gariad a’th ffyddlondeb.
Tua’r deml ymgrymaf fi.
Cans dyrchefaist d’air a’th enw
Uwchlaw popeth sydd o werth.
Fe’m hatebaist i pan elwais,
A chynyddaist ynof nerth.
4-6Boed i holl frenhinoedd daear
Ganu am dy ffyrdd yn awr,
Canys clywsant eiriau d’enau,
A’th ogoniant di sydd fawr.
Er dy fod yn uchel, Arglwydd,
Fe gymeri sylw o lef
Y rhai isel, a darostwng
Y rhai balch o uchder nef.
7-8Er im fynd trwy gyfyngderau,
Â’th ddeheulaw gref, fy Nuw,
Cosbaist ti fy holl elynion,
A rhoist imi flas ar fyw.
Byddi, Arglwydd, yn gweithredu
Ar fy rhan, waeth beth a ddaw.
Mae dy gariad yn dragywydd;
Paid â gadael gwaith dy law.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.