1-3Fy Nuw, O Frenin, fe’th ddyrchafaf di;
Dy enw beunydd a fendithiaf fi.
Mawr yw yr Arglwydd, teilwng iawn o glod,
Ac anchwiliadwy ydyw ei holl fod.
4-5Molianna’r naill genhedlaeth wrth y llall
Dy holl weithredoedd nerthol yn ddi-ball.
Dywedant am d’ysblander di o hyd,
A sylwi ar dy ryfeddodau i gyd.
6-7Cyhoeddant rym dy holl weithredoedd mawr,
Ac adrodd am dy fawredd bob yr awr.
Dygant i gof dy holl ddaioni, O Dduw,
A chanu am dy gyfiawnder tra bônt byw.
8-9Graslon a llawn trugaredd ydyw Duw,
Araf i ddigio, llawn ffyddlondeb yw.
Daionus yw yr Arglwydd wrth bob un,
Trugarog wrth holl waith ei ddwylo’i hun.
10-12Dy waith i gyd a’th fawl, ac mae dy saint
Yn dy fendithio, O Dduw, gan ddweud am faint
Dy nerth, a sôn am rwysg dy deyrnas di
I beri i bawb weld ei hysblander hi.
13Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas di,
Saif dy lywodraeth byth heb golli’i bri.
Ffyddlon yw’r Arglwydd yn ei eiriau i gyd,
Trugarog ei weithredoedd ef o hyd.
14-16Cwyd bawb sy’n syrthio; gwna y cam yn syth;
Try llygaid pawb mewn gobaith ato byth;
Â’th law’n agored, bwydi hwy, O Dduw.
Diwelli, yn ôl d’ewyllys, bopeth byw.
17-19Cyfiawn yw’r Arglwydd da yn ei holl ffyrdd,
A ffyddlon yw yn ei weithredoedd fyrdd;
Nesâ at bawb sy’n galw arno ef.
Gwna eu dymuniad, gwrendy ar eu llef.
20-21Gofala Duw am bawb a’i câr yn wir,
Ond mae’n dinistrio’r holl rai drwg o’r tir.
Moliannaf ef; ac fe fydd popeth byw
Byth yn bendithio enw sanctaidd Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.