1-2aGwyn fyd y sawl sy’n meddwl am
Y tlawd, cans fe fydd Duw
Yn gwared hwn rhag adfyd blin
Ac yn ei gadw’n fyw.
2b-3Fe’i gwna yn ddedwydd yn y tir,
Nis rhydd i fympwy cnaf.
Fe’i cynnal ef, a pharatoi
Ei wely pan fo’n glaf.
4Dywedais innau, “Trugarha,
O Arglwydd, wrthyf fi;
Iachâ fi’n awr, oherwydd gwn
Im bechu yn d’erbyn di”.
5Dirmyga fy ngelynion fi,
Gan ddweud mewn gwawd, “Pa bryd
Y bydd ef farw, a dileu
Ei enw ef o’r byd?”
6Pan ddelo un i’m gweld, mae’i sgwrs
Yn rhagrith oll i gyd;
Hel clonc amdanaf yw ei nod
I’w thaenu ar y stryd.
7-8Fe sisial pawb sy’n fy nghasáu
Â’i gilydd am fy nghlwy:
“Mae rhywbeth marwol arno’n siŵr;
Ni chyfyd eto mwy”.
9Mae hyd yn oed fy nghyfaill hoff,
Fu’n bwyta wrth fy mwrdd,
A mi’n ymddiried ynddo’n llwyr,
Yn troi ei ben i ffwrdd.
10O adfer fi yn awr, fy Nuw,
O Arglwydd, trugarha,
A lle y gwnaethant imi ddrwg
Mi dalaf innau dda.
11Caf wybod imi gael dy ffafr
Pan na fydd llawenhau
Gan fy ngelynion ar fy nhraul,
A thi yn fy mywhau.
12-13Cynheli fi, cans cywir wyf,
Yn d’wyddfod byth heb sen.
Duw Israel, bendigedig fo
Am byth. Amen. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.