Salmau 115 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 115Rhagoriaeth ein DuwSt. Gertrude 65.65.D a chytgan

1-3Dyro di ogoniant,

Arglwydd, nid i ni,

Ond i’th enw, canys

Cariad ydwyt ti.

Pam yr hola’r gwledydd,

“Ple y mae eu Duw?”

Mae’n Duw ni’n y nefoedd;

Crëwr popeth yw.

9Israel, ymddirieda

Yn yr Arglwydd Dduw,

Cans dy gymorth parod

Di, a’th darian yw.

4-6aDuwiau y cenhedloedd,

Delwau ŷnt bob un,

Delwau aur ac arian

O waith dwylo dyn.

Y mae ganddynt enau,

Ond y maent yn fud;

Dall eu llygaid; byddar

Yw eu clustiau i gyd.

10O dŷ Aaron, credwch

Yn yr Arglwydd Dduw,

Cans eich cymorth parod

Chwi, a’ch tarian yw.

6b-8Ffroenau nad aroglant,

Dwylo na wnânt waith

Sydd i’r delwau mudion:

Traed na cherddant chwaith.

Y mae eu gwneuthurwyr

Yr un mor ddi-werth,

A phawb sy’n ymddiried

Yn eu grym a’u nerth.

11Chwi sy’n ofni’r Arglwydd,

Rhowch eich cred yn Nuw,

Cans eich cymorth parod

Chwi, a’ch tarian yw.

12-14Y mae Duw’n ein cofio,

A’n bendithio a wna.

Fe fendithia Israel

A thy Aaron dda,

A phawb sy’n ei ofni,

Boed yn fach neu’n fawr.

Amlhaed Duw chwi

Oll, a’ch plant yn awr.

15Boed i chwi gael bendith

Gan yr Arglwydd Dduw;

Crëwr mawr y nefoedd

A’r holl ddaear yw.

16-18Am y nefoedd uchod,

Eiddo’r Arglwydd yw;

Ond fe roes y ddaear

I blant dynolryw.

Ni all neb o’r meirw

Foli Duw o’u tref,

Ond nyni’n oes oesoedd

A’i moliannwn ef.

Molwch bawb yr Arglwydd,

A bendithiwch Dduw,

Cans eich cymorth parod

Chwi, a’ch tarian yw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help