Salmau 66 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 66Bendigedig fyddo DuwAustria 87.87.D

1-4Rhowch wrogaeth, yr holl ddaear,

I ogoniant enw Duw,

A dywedwch, “Mor ofnadwy

Dy weithredoedd o bob rhyw.

Rwyt mor nerthol, mae d’elynion

Yn ymgreinio ger dy fron.

Moesymgrymu iti a moli

D’enw a wna’r ddaear gron”.

5-7Dewch i weld yr holl weithredoedd

Mawrion a wnaeth Duw erioed:

Trodd y môr yn sychdir, aethant

Trwy yr afon fawr ar droed.

Yno y llawenychwn ynddo,

Mae’i lywodraeth byth yn gref.

Ofer yw i wrthryfelwyr

Godi yn ei erbyn ef!

8-12Molwch ein Duw ni, chwi bobloedd,

Rhoes le inni ymhlith y byw.

Ond fel coethi arian, buost

Yn ein profi ni, O Dduw.

Rhwydaist ni, rhoist rwymau amdanom,

Sathrodd carnau meirch ein ffydd.

Aethom trwy y tân a’r dyfroedd,

Ond fe’n dygaist ni yn rhydd.

13-16Dof i’th deml â phoethoffrymau;

Talaf f’addunedau i gyd,

Rhai a wneuthum pan oedd pethau’n

Gyfyng arnaf am ryw hyd.

Mi aberthaf basgedigion

Yn bêr arogldarth i ti.

Clywch, chwi oll sy’n ofni’r Arglwydd,

Beth a wnaeth fy Nuw i mi.

17-20Gwaeddais arno; roedd ei foliant

Ef ar flaen fy nhafod i.

Pe bai drwg o fewn fy nghalon,

Ni wrandawsai arnaf fi.

Ond rhoes sylw i lef fy ngweddi,

Canys bythol ffyddlon yw.

Am na throdd fy ngweddi oddi wrtho

Bendigedig fyddo Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help