1-2Gwaeddaf yn daer ar Dduw,
Ymbiliaf arno ef;
Arllwysaf fy holl gwyn o’i flaen,
A dof i’w ŵydd â’m llef.
3Fe wyddost ti fy llwybr
Pan balla f’ysbryd i.
Maent wedi cuddio magl ar
Y llwybr a gerddaf fi.
4Tremiais i’r dde, a gweld
Nad oes un cyfaill im;
Nid oes dihangfa imi chwaith,
Na neb yn malio dim.
5Ond gwaeddais arnat ti;
Dywedais, “O fy Nuw,
Ti, Arglwydd, yw fy noddfa i
A’m rhan yn nhir y byw”.
6Bwriwyd fi’n isel iawn;
O gwrando ar fy nghri
A’m gwared rhag f’erlidwyr oll,
Cans cryfach ŷnt na mi.
7Dwg fi o’m carchar caeth,
Fel y clodforaf di.
Pan gaf dy ffafr dylifo a wna
Y cyfiawn ataf fi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.