1-3Molwch yr Arglwydd Dduw,
Sy’n byw yng nghysegr nef,
Am ei weithredoedd gwiw
A’i holl fawrhydi ef.
Molwch ag utgorn clir ei sain,
 thannau ac â thelyn gain.
4-6Â dawns a thympan fwyn,
Ag organ glir fel cloch,
 thannau llawn o swyn
 sŵn symbalau croch,
Bydded i bopeth sydd yn fyw
Foliannu’r Arglwydd. Molwch Dduw!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.