Salmau 137 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 137Ar lan afonydd BabilonArabia MC

1Ar lan afonydd Babilon

Yr eisteddasom ni,

Ac wylo wrth gofio am Seion gynt,

A’r deml yn ei bri.

2-3Crogasom ein telynau ar

Yr helyg uwch y lli.

Gofynnai’n meistri, “Canwch rai

O salmau’r deml i ni”.

4-5Ond sut y medrwn ganu cân

I’n Duw mewn estron le?

Os â Jerwsalem o’m cof,

Parlyser fy llaw dde.

6Fy nhafod glyned yn fy ngheg,

A thrawer fi yn fud,

Os na rof di, Jerwsalem,

Uwch popeth gorau’r byd.

7Am boen Jerwsalem, O Dduw,

Rho i Edom benyd trwm,

Am iddynt ddweud, “I lawr â hi

At ei sylfeini llwm”.

8-9A thithau, Fabilon, gwyn fyd

Y sawl a dâl i ti,

A lladd dy blant yn erbyn craig

Am iti’n dryllio ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help