1-2Dyweded Israel: Oni bai
I’r Arglwydd fod o’n tu
Pan gododd ein gelynion oll
I’n herbyn yn un llu,
3-5Fe fyddent wedi’n llyncu’n fyw,
A’n llosgi yn eu llid.
Cuddiasai’r tonnau’n pennau, a’n
Hysgubo i ffwrdd i gyd.
6-7aOnd bendigedig fyddo Duw.
Ni roddodd ni yn brae
I’w dannedd. Cawsom fynd yn rhydd,
A dianc rhag pob gwae.
7b-8Dianc yn rhydd, fel adar bach
O faglau’r heliwr cudd.
Ein gobaith sydd yn enw Duw,
Creawdwr popeth sydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.