Salmau 73 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 73Duw yw fy nghryfder a’m cyfranNicea 12.13.12.10

1-5Da yw Duw, yn sicr, i’r rhai pur o galon.

Llithrais bron drwy genfigennu wrth y rhai trahaus

Am eu bod heb ofid, ac yn iach a bodlon –

Nid fel y tlawd, mewn helynt yn barhaus.

6-9Mae eu balchder, felly, yn gadwyn am eu gyddfau.

Y mae trais yn wisg amdanynt, a’u calonnau’n ffôl.

Gwawdiant a bygythiant ormes, a’u tafodau’n

Tramwy trwy’r wybren, a thros fryn a dôl.

10-12Try y bobl, am hynny, atynt gan ddywedyd,

“Y Goruchaf – sut y gŵyr? Beth ydyw’r ots gan Dduw?”

Felly y mae’r rhai’r drwg – bob amser mewn esmwythyd,

Ac yn hel cyfoeth mawr tra byddant byw.

13-15Cwbl ofer im oedd cadw’n lân fy nghalon,

Cans ni chefais ddim ond fy mhoenydio drwy y dydd;

Ond pe dywedaswn, “Dyma fy nadleuon”,

Buaswn wedi gwadu teulu’r ffydd.

16-20Eto, anodd ydoedd deall hyn, nes imi

Fynd i gysegr Duw a gweld beth yw eu diwedd hwy.

Llithrig yw eu llwybr; yn sydyn fe’u dinistri.

Ciliant fel hunllef, ac nis gwelir mwy.

21-23Mor ddiddeall oeddwn yn fy siom a’m chwerwder,

Ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat ti.

Ond, er hynny, yr wyf gyda thi bob amser.

Yr wyt yn cydio yn fy neheulaw i.

24-26Fe’m cynghori i, a’m derbyn mewn gogoniant.

Pwy sydd gennyf yn y nef na’r ddaear ond tydi?

Er i’m cnawd a’m calon fynd i lwyr ddifodiant,

Duw yw fy nghryfder byth, a’m cyfran i.

27-28Yn wir, fe ddifethir pawb sy’n bell oddi wrthyt,

Ond peth da i mi yw bod yn agos at fy Nuw.

Ti yw f’Arglwydd Dduw, ac fe gaf gysgod gennyt

I ddweud dy ryfeddodau tra bwyf byw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help