1-4Arglwydd, yr wyt ti’n f’adnabod;
Gwyddost ti yn iawn pa bryd
Yr wy’n eistedd ac yn codi;
Gwyddost beth sydd yn fy mryd.
Fe fesuraist fy holl gerdded,
Gwyddost bopeth rwy’n ei wneud,
Ac fe wyddost fy holl eiriau
Cyn i’m tafod i eu dweud.
5-8Taenaist dy ddeheulaw drosof;
Amgylchynaist fi o’r bron;
Ond rhy ryfedd a rhy uchel
Imi yw’r wybodaeth hon.
I ble’r af oddi wrth dy ysbryd?
Ple y ffoaf rhagot ti?
Os i’r nefoedd, yr wyt yno;
Os i Sheol, wele di.
9-12Os ehedaf ar adenydd
Chwim y wawr i ben draw’r byd,
Yno hefyd dy ddeheulaw
A’m cynhaliai i o hyd.
Os dywedaf, “Gall tywyllwch
Nos fy nghuddio,” gwn na fydd
Dim i ti’n dywyllwch, Arglwydd,
Ond goleua’r nos fel dydd.
13-15Ti a greodd f’ymysgaroedd;
Lluniaist fi yng nghroth fy mam.
Molaf di – rhyfeddol ydwyt,
A’th weithredoedd heb un nam.
Da’r adwaenost fi. Ni chuddiwyd
Fy ngwneuthuriad rhagot ti
Pan, yn nyfnder cudd y ddaear,
Y gwnaed ac y lluniwyd fi.
16-18Cyn fy ngeni, ysgrifennaist
Yn dy lyfr holl dro fy rhod,
Ac fe ffurfiaist fy holl ddyddiau
Pan nad oedd yr un yn bod.
O mor ddwfn yw dy feddyliau,
Mor lluosog ydynt hwy;
Lluosocach ŷnt na’r tywod;
Pe’u cyfrifwn, wele fwy!
19-20O na byddit ti, O Arglwydd,
Yn dinistrio gyda gwg
Y drygionus, fel y troai
Oddi wrthyf y rhai drwg –
Y rhai gwaedlyd sy’n dy herio
Mor ddichellgar yn dy fyd,
Ac yn gwrthryfela’n ofer
Yn dy erbyn di o hyd.
21-24Onid wy’n casáu, O Arglwydd,
Bawb sy’n dy ffieiddio di?
Fe’u ffieiddiaf â chas perffaith,
A gelynion ŷnt i mi.
Chwilia fi, O Dduw, a phrofa
Fy meddyliau i bob un;
Ac os ydwyf ar ffordd distryw,
Arwain fi i’th ffordd dy hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.