Salmau 104 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 104Emyn i’r CreawdwrDiademata 66.86.DArglwydd, bendithiaf di.Fy Nuw, yr wyt mor fawr.

1-3Dy wisg, ysblander ydyw hi;

Dy fantell yw y wawr.

Fe daeni’r nef fel llen;

Dy blas a seiliaist gynt

Goruwch y dyfroedd; ei drwy’r nen

Ar esgyll chwim y gwynt.

4-7Gwyntoedd a fflamau tân

Sydd weision oll i ti.

Sylfaenaist ti y ddaer achlân,

Ac nis symudir hi.

Bu’r dyfnder yn gor-doi’i

Mynyddoedd mawr i gyd,

Ond gwnaethost ti i’r dyfroedd ffoi

A chilio rhag dy lid.

8-12I’r lle a bennaist ânt;

Gosodaist iddynt hwy

Derfynau pendant fel na chânt

Orchuddio’r ddaear mwy.

Mewn hafnau diystŵr

Fe roist ffynhonnau iach

Lle daw’r bwystfilod gwyllt am ddŵr,

Lle nytha’r adar bach.

13-15O’th blas rwyt yn dyfrhau

Y ddaear; tyfi di

Y gwellt i’r gwartheg; rwyt yn hau

At ein gwasanaeth ni.

Cawn ddwyn o’r ddaear wledd:

Yn fara trown ei hŷd;

Cawn olew i ddisgleirio’n gwedd,

A gwin i lonni’n bryd.

16-18Digoni a wnei y coed,

Hen gedrwydd Lebanon,

Lle bu’r ciconia’n byw erioed,

Lle nytha’r adar llon.

Ar y mynddoedd pawr

Y geifr, yn fodlon, glyd,

A lloches yw’r clogwyni mawr

I’r brochod mân i gyd.

19-23Trefnaist ei chylch i’r lloer;

Daw’r hirnos, pan y mae

Bwystfilod gwig, â’u rhuo oer,

Yn prowla am eu prae.

Ond pan ddaw’r haul i’w daith,

Fe giliant hwy yn llwyr.

Daw pobl allan at eu gwaith

A’u llafur hyd yr hwyr.

24-26Doeth a niferus iawn

Yw gwaith dy law, O Dduw:

Mae’r ddaear lydan oll yn llawn

O’th greaduriaid byw;

A’r môr â’i bysg di-ri,

A’i longau o bob llun,

A Lefiathan, a wnest ti

Er sbort i ti dy hun.

27-30Arnat dibynnu a wnânt

Am ymborth yn ei bryd.

Pan roi, fe’u casglant, ac fe gânt

Eu llwyr ddiwallu i gyd.

Pan ei â’u hanadl frau,

Dychwelant yn llwch mud,

Ond daw dy anadl di i fywhau

Ac adnewyddu’r byd.

31-32Gogoniant Duw a fo’n

Dragywydd a di-goll.

A bydded iddo lawen sôn

Am ei weithredoedd oll.

Pan fwria’i drem i’r llawr,

Fe bair ddaeargrynfeydd;

Pan gyffwrdd â’r mynyddoedd mawr,

Fe fygant gan losgfeydd.

33-35Canaf i’r Arglwydd gân,

A’i foli tra bwyf byw,

A boed fy myfyrdodau’n lân

A chymeradwy i Dduw.

Yr anfad yn ein plith,

Erlidied hwy o’u tref.

Bendithiaf fi yr Arglwydd byth,

A molwch chwithau ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help