1-4Molwch yr Arglwydd Dduw.
Fy enaid, mola di
Yr Arglwydd da: tra byddaf byw
Ei fawl a ganaf fi.
Nac ymddiriedwch ddim
Yn nhywysogion byd,
Cans darfod a wnânt hwy yn chwim
A’u holl gynlluniau i gyd.
5-7Gwyn fyd y sawl y daeth
Duw Jacob ato ef,
Sy â’i obaith yn yr un a wnaeth
Y tir a’r môr a’r nef –
Y Duw sy’n cyfiawnhau
Y tlawd, yn rhoddi bwyd
I’r rhai newynog, yn rhyddhau
Y carcharorion llwyd.
8-10Golwg a rydd i’r dall;
Uniona’r rhai sy’n gam;
Fe geidw’r dieithr yn ddi-ball
A’r weddw rhag pob cam.
Mae’n caru’r da i gyd,
Ond dryllia’r drwg o’u tref.
Duw Seion a deyrnasa hyd
Byth bythoedd. Molwch ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.