1-3Mae’r sawl sy’n byw yn lloches
Yr Hollalluog Dduw
Yn dwedyd am yr Arglwydd,
“Fy nghaer a’m noddfa yw;
Mi ymddiriedaf ynddo”.
Cans dy waredu a wna
O fagl gudd yr heliwr,
Rhag dinistr a rhag pla.
4-6Bydd cysgod ei adenydd
I ti yn nodded dlos.
Cei darian ei wirionedd.
Nid ofni ddychryn nos,
Na’r saeth sydd yn ehedeg
Liw dydd, na’r heintiau sydd
Yn cerdded drwy’r tywyllwch,
Na dinistr ganol dydd.
7-10Pe syrthiai mil wrth d’ochor,
Deng mil ar dy law dde,
Diogel fyddi, a gweli
Roi’r anfad yn eu lle.
Bydd Duw i ti yn noddfa,
Yn amddiffynfa gref.
Ni ddigwydd niwed iti,
Ac ni ddaw pla i’th dref.
11-13Gorchmynna i’w angylion
Dy gadw yn dy ffyrdd.
Rhag taro o’th droed wrth garreg,
A rhag trallodion fyrdd,
Fe’th godant ar eu dwylo;
A throedio a wnei yn lew
Ar lewod ac ar nadroedd,
Y sarff a chenau’r llew.
14-16“Am iddo lynu wrthyf,
Gwaredaf ef,” medd Duw.
“Am iddo fy adnabod,
Fe’i cadwaf tra bo byw.
Dof ato mewn cyfyngder,
Ac fe’i digonaf ef
Ag einioes hir i flasu
Fy iachawdwriaeth gref.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.