1-3O Arglwydd, na cherydda
Fi yn dy ddicter mawr.
Y mae dy saethau’n suddo
I mewn i mi yn awr.
Y mae dy law’n drwm arnaf,
Ac nid oes rhan o’m cnawd
Yn gyfan gan dy ddicter,
Ac afiach f’esgyrn tlawd.
4-7Fy mhechod a’m camweddau
Sydd faich rhy drwm i mi.
Mae ’mriwiau cas yn crawni
Gan fy ffolineb i.
Fe’m plygwyd a’m darostwng,
Galaraf drwy y dydd,
Fy llwynau’n llosg gan dwymyn,
A’m cnawd yn afiach, brudd.
8-10Mae ’nghalon i yn griddfan.
Parlyswyd, llethwyd fi.
O Arglwydd, mae ’nyhead
Yn amlwg iawn i ti.
Mae ’nghalon yn tabyrddu,
Fy nerth yn pallu i gyd,
A thywyll yw fy llygaid,
Heb olau yn y byd.
11-12Mae ’nheulu a’m cymdogion
A’m ffrindiau’n cadw draw.
Mae’r rhai sydd am fy einioes
Yn gosod maglau braw,
A’r rhai sydd am fy nrygu
Yn sôn am ddinistr fydd,
Ac yn parhau i fyfyrio
Dichellion drwy y dydd.
13-15Ond rwyf fi fel un byddar
Heb fod yn clywed dim,
Fel mudan heb leferydd,
Ac nid oes dadl im.
Amdanat ti, O Arglwydd,
Yr hir ddisgwyliais i.
O Arglwydd, pwy a’m hetyb?
Does neb, fy Nuw, ond ti.
16-18Oherwydd fe ddywedais,
“Llawenydd byth na foed
I’r rheini sy’n ymffrostio
O weled llithro o’m troed”.
Yn wir, rwyf ar fin syrthio,
Mae ’mhoen o’m blaen bob awr.
Cyffesaf a phryderaf
Am fy mhechodau mawr.
19-22Cryf ydyw fy ngelynion
Sy’n fy nghasáu ar gam
Ac yn fy ngwrthwynebu
Am fy mod i’n ddi-nam.
O paid â’m gadael, Arglwydd,
Na chilia oddi wrthyf fi,
Ond brysia i’m cynorthwyo,
Fy iachawdwriaeth i.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.