1-2Da yw dy foli, Arglwydd Dduw,
A chanu i’th enw, gweddus yw:
Sôn am dy gariad gyda’r wawr,
A’r nos am dy ffyddlondeb mawr.
3-5Â’r delyn fwyn a’i thannau mân,
Ar gordiau’r dectant, seiniwn gân.
Cans gwaith dy ddwylo a’m llonnodd i;
Mor ddwfn yw dy feddyliau di!
6-8Un ynfyd yw y sawl na ŵyr
Y caiff y drwg eu difa’n llwyr;
Dinistrir hwy, er maint eu bri,
Ond dyrchafedig byth wyt ti.
9-11Difethir dy elynion di,
Ac yn eu cwymp fe’m llonnir i.
Eneiniaist fi ag olew gwych
A chodi ’nghorn fel corn yr ych.
12-13Blodeua’r da fel palmwydd ir,
Fel cedrwydd Lebanon, drwy’r tir.
Yn nhŷ yr Arglwydd maent yn byw;
Blodeuant yng nghynteddau’n Duw.
14-15Parhant i ffrwytho hyd yn oed
Mewn henaint, wyrdd ac iraidd goed,
I ddweud nad oes camwri yn Nuw:
Ef yw fy nghraig, ac uniawn yw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.