1-2aCadw fi, O Dduw, rhag pobol
Sy’n ddrygionus a gormesol,
Rhai sy’n wastad yn cynllunio
Yn eu calon ddrwg a chyffro.
2b-3Maent bob amser yn y dirgel
Yn ymbaratoi at ryfel.
Mîn fel sarff sydd i’w tafodau,
Gwenwyn gwiber eu gwefusau.
4-5Arbed fi rhag llaw’r drygionus,
Cadw fi rhag pobl orthrymus.
Cuddiodd y trahaus eu maglau
Ar fy ffordd, a gosod rhwydau.
6-7Ti yw ’Nuw, O Arglwydd grymus,
Gwrando lef fy ngweddi glwyfus.
Ti, fy nghadarn iachawdwriaeth,
Fu fy helm mewn brwydr ganwaith.
8-9Na ro iddynt eu dymuniad,
Paid â’u llwyddo yn eu bwriad.
Llethed gwenwyn eu gwefusau
Y trahaus yn eu bwriadau.
10-11Syrthied arnynt farwor tanllyd,
Bwrier hwynt i ffosydd bawlyd;
A drygioni a ymlidied
Bob gorthrymwr yn ddiarbed.
12-13Gwn y rhoddi, Dduw, gyfiawnder
I’r anghenus, tlawd bob amser.
Moli d’enw a wna y cyfiawn,
Ac yn d’ŵydd bydd byw yr uniawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.