1-3O Arglwydd, clyw fy ngweddi; doed
Fy llef hyd atat ti.
Na chudd dy wyneb rhagof; boed
It glywed ing fy nghri.
Dyro im ateb yn ddi-oed,
Cans darfod yr wyf fi,
A’m holl gorff yn llosgi megis ffwrn.
4-7Gwywo fel glaswellt a fu’n ir,
A nychu yw fy ffawd.
Oherwydd sŵn f’ochneidio hir,
Mae f’esgyrn trwy fy nghnawd.
Yr wyf fel brân mewn anial dir,
Tylluan adfail tlawd,
Fel aderyn unig ar ben to.
8-11I’m gwawdwyr nid yw f’enw i
Ond rheg o flaen y byd.
Lludw fy mwyd, a dagrau’n lli
A yfaf. Yn dy lid
Fy mwrw o’r neilltu a wnaethost ti;
Mae ’mywyd i i gyd
Megis cysgod hwyr neu laswellt gwyw.
12-15Arglwydd, am byth gorseddwyd di;
Fe godi i drugarhau;
Canys fe ddaeth yr amser i
Dosturio wrth Seion frau.
Hoff gan dy weision ei llwch hi.
Pan ddeui i’w chryfhau
Bydd cenhedloedd byd yn crynu o’th flaen.
16-18Fe adeilada’r Arglwydd Dduw
Ei Seion, a daw dydd
Y gwelir eto’i fawredd; clyw
Gri’r gorthrymedig prudd.
Hyn oll, ysgrifenedig yw
I genedlaethau a fydd.
Genir eto bobl i’w foli ef.
19-22Cans bu i’r Arglwydd drugarhau.
O’r nef fe fwriodd drem
Ar garcharorion, a’u rhyddhau
Rhag angau a gormes lem,
Fel bod i’w enw mawr barhau
Drwy holl Jerwsalem
Pan ddaw’r byd ynghyd i’w foli ef.
23-25O Arglwydd Dduw, byrheaist ti
Fy nyddiau yn y byd.
Dywedaf am fy einioes i,
“Na chymer hi cyn pryd”.
Cans pery dy flynyddoedd di
Drwy’r cenedlaethau i gyd.
Creaist ddaear; gwaith dy law yw’r nef.
26-28Derfydd y rhain, a llwyr lesgáu,
Ond nid ei di’n ddim hŷn.
Treulio a wnânt fel dillad brau,
Ond yr wyt ti yr un.
Bydd plant dy weision yn parhau
Yn Seion hardd ei llun,
A’u hiliogaeth dan d’amddiffyn di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.