1-9Diolchwch oll i Dduw,
Cans da yw Duw y duwiau.
Arglwydd arglwyddi yw;
Mae’n gwneud mawr ryfeddodau:
Y byd a’r wybren dlos,
Yr haul liw dydd, a’r lleuad
A’r sêr yn olau i’r nos,
Cans byth fe bery ei gariad.
10-15Fe drawodd blant yr Aifft,
A daeth ag Israel allan.
Ag estynedig fraich
A nerth ei law ei hunan,
Fe’n dygodd trwy’r Môr Coch,
Ond taflu’r Pharo anfad
A’i lu i’r dyfroedd croch,
Cans byth fe bery ei gariad.
16-26Fe’n dug trwy’r anial hir,
A lladd brenhinoedd cryfion,
A rhoi i ni eu tir
Yn etifeddiaeth dirion.
Gwaredodd ni, ac ef
Sy’n bwydo pawb drwy’r cread.
Diolchwch i Dduw’r nef,
Cans byth fe bery ei gariad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.