Salmau 106 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 106Israel anniolchgarLobe den Herren 14.14.4.7.8

1-3Molwch yr Arglwydd, cans da yw; ei gariad a bery.

Diolchwch iddo; ei wyrthiau ni all neb eu traethu.

Mor wyn eu byd

Y rhai sy’n uniawn o hyd

Ac sydd yn gyfiawn wrth farnu.

4-5Cofia fi, Arglwydd, pan ddoi at dy bobl â’th ffafriaeth.

Ymwêl â mi pan estynni dy fawr waredigaeth,

A gweld a gaf

Lwyddiant dy bobl; llawenhaf

Pan lawenha d’etifeddiaeth.

6-8Yr ydym ni, fel ein tadau gynt, wedi troseddu.

Yn yr Aifft, gwadent dy wyrthiau a’th gariad a’th allu.

Wrth y Môr Coch,

Gwrthryfelasant yn groch;

Ond mynnodd Duw eu gwaredu.

9-12Sychodd y môr, ac arweiniodd hwy trwy ei ddyfnderau.

Gwaredodd hwy o law’r gelyn a’u harbed rhag angau.

Llyncodd y dŵr

Eu gwrthwynebwyr, bob gŵr.

Yna credasant ei eiriau.

13-15Buan yr aeth ei weithredoedd yn angof llwyr ganddynt.

Profasant Dduw yn yr anial, pan ddaeth eu blys drostynt.

Rhoes iddynt hwy

Bopeth a geisient, a mwy,

Ond gyrrodd nychdod amdanynt.

16-18Roedd eu cenfigen at Foses ac Aaron yn wenfflam.

Caeodd y ddaear am Dathan a chwmni Abiram.

Cyneuodd tân:

Llosgodd ei fflamau yn lân

Y rhai drygionus a gwyrgam.

19-22Yn Horeb, delw a wnaethant o lo, a’i haddoli:

Newid gogoniant eu Duw am lun eidion yn pori;

Anghofio Duw,

A’u dygodd o’r Aifft yn fyw,

A gwyrthiau mawr ei ddaioni.

23-25Felly, dywedodd y byddai’n eu difa yn ebrwydd

Oni ddôi Moses i’r bwlch i droi’n ôl ei ddicllonrwydd.

Mawr oedd eu brad;

Cablent hyfrydwch y wlad,

Heb wrando ar lais yr Arglwydd.

26-27Fe gododd yntau ei law yn eu herbyn, a thyngu

Y byddai’n peri eu cwymp yn yr anial, a chwalu

Eu plant i gyd

I blith cenhedloedd y byd –

Trwy’r gwledydd oll eu gwasgaru.

28-31Yna fe aethant dan iau’r duw Baal Peor, a bwyta

Ebyrth y meirw, a digio yr Arglwydd â’u hyfdra.

Daeth arnynt bla,

Nes barnodd Phinees hwy’n dda;

Cofir am byth ei uniondra.

32-33Wrth ddyfroedd Meriba hefyd, digiasant yr Arglwydd,

Ac fe aeth Moses ei hun i drybini o’u herwydd,

Canys fe aeth

Chwerwder i’w enaid, a gwnaeth

Bethau a fu iddo’n dramgwydd.

34-37Nid ufuddhasant ychwaith a dinistrio’r paganiaid,

Ond ymgymysgu â hwy, dysgu ffyrdd yr anwariaid:

Plygu o flaen

Delwau o goed ac o faen,

Aberthu’u plant i’r demoniaid.

38-39I dduwiau Canaan aberthent eu meibion a’u merched,

Ac fe halogwyd y ddaear â gwaed y diniwed.

Trwy hyn i gyd

Aethant yn aflan eu bryd

Ac yn buteiniaid gwargaled.

40-43Yna cythruddodd yr Arglwydd eu Duw yn eu herbyn,

A darostyngodd ei bobl dan lywodraeth eu gelyn.

Droeon bu’n gefn

Iddynt, ond pechent drachefn,

A darostyngai hwy wedyn.

44-46Ond, wrth eu clywed yn llefain am gymorth, fe gofiodd

Ei hen gyfamod â hwy, ac fe edifarhaodd.

O’i gariad hael

Rhoes ei drugaredd ddi-ffael

Yng nghalon pawb a’u caethiwodd.

47-48Gwared ni, Arglwydd, a’n cynnull ni o blith y gwledydd,

Inni gael diolch i’th enw, a’th foli di beunydd.

Byth y bo’n ben

Arglwydd Dduw Israel. Amen.

Molwch yr Arglwydd tragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help