Salmau 107 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 107Diolched pawb i’r ArglwyddWir pflügen 76.76.D a chytgan

1-3“Diolched pawb i’r Arglwydd,

Cans da a ffyddlon yw,”

Yw cân pawb a waredwyd

Trwy law yr Arglwydd Dduw.

Fe’u cipiodd o law’r gelyn,

A’u cynnull i un lle

O’r dwyrain a’r gorllewin,

O’r gogledd ac o’r de.

8Bydded iddynt ddiolch

Am holl ffyddlondeb Duw,

Ac am a wnaeth i’w bobl gaeth,

Cans cariad yw.

4-7Aeth rhai ar goll mewn drysi,

Heb ffordd at le i fyw.

Yr oeddent yn newynog,

Ac yn sychedig, wyw.

Gwaeddasant ar yr Arglwydd,

A’u gwared a wnaeth ef,

A’u harwain hyd ffordd union

I ddiogelwch tref.

8-9Bydded iddynt ddiolch

Am holl ffyddlondeb Duw;

Eu porthi a wnaeth â mêl a llaeth,

Cans cariad yw.

10-14Roedd rhai mewn carchar tywyll

Am wrthod ufuddhau

I eiriau Duw, yn gaethion

Heb undyn i’w rhyddhau.

Gwaeddasant ar yr Arglwydd,

A’u gwared a wnaeth ef,

A’u dwyn hwy o’r tywyllwch,

A dryllio’r gadwyn gref.

15-16Bydded iddynt ddiolch

Am holl ffyddlondeb Duw

Yn dryllio’r pyrth a’r heyrn drwy wyrth,

Cans cariad yw.

17-20Roedd rhai, yn sgîl eu pechod,

Yn ynfyd a di-hedd;

Casaent fwyd, a daethant

Yn agos at y bedd.

Gwaeddasant ar yr Arglwydd,

A’u gwared a wnaeth ef.

Iachaodd hwy, a’u hachub,

Drwy nerthol air y nef.

21-22Bydded iddynt ddiolch

Am holl ffyddlondeb Duw:

Mynegi i’r byd ei wyrthiau i gyd,

Cans cariad yw.

23-30Aeth rhai i’r môr mewn llongau,

A gwelsant Dduw y gwynt

Yn corddi’r don nes troellent

Fel meddwon ar eu hynt.

Gwaeddasant ar yr Arglwydd,

A’u gwared a wnaeth ef.

Fe wnaeth i’r storm dawelu,

A dug hwy tua thref.

31-32Bydded iddynt ddiolch

Am holl ffyddlondeb Duw,

A’i foli ymhlith ei bobl byth,

Cans cariad yw.

33-36Mae’n troi ffynhonnau’n sychdir

I gosbi pobl ddrwg.

Mae’n troi tir sych yn ffrwythlon

I rai newynog. Dwg

Hwy yno i godi dinas;

Cânt blannu a chânt hau.

Bydd ef yn eu bendithio

Ac yn eu hamlhau.

8Bydded iddynt ddiolch

Am holl ffyddlondeb Duw,

Am gnydau’r haf, am wartheg braf,

Cans cariad yw.

37-42Pan fyddant hwy dan orthrwm,

Fe ddaw a thywallt gwarth

Ar eu gormeswyr creulon,

A’u gyrru i anial barth;

Ond cwyd y tlawd o’i ofid,

Cynydda’i deulu i gyd.

Fe lawenha yr uniawn,

Ond bydd y drwg yn fud.

8 Bydded iddynt ddiolch

Am holl ffyddlondeb Duw;

43Os doeth wyt, myn roi sylw i hyn,

Cans cariad yw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help