Cantiglau 3 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

Ti, Dduw, a folwn (Y Te Deum)Winchester New MH

1-2Tydi, O Dduw, a folwn ni.

Yn Arglwydd cydnabyddwn di.

Fe’th fawl y ddaear oll i gyd,

Cans Tad tragwyddol wyt o hyd.

3-4Holl engyl a holl nerthoedd nef

A gyfyd atat ti eu llef.

Amdanat ti’n ddi-baid y cân

Cerwbiaid a seraffiaid glân:

5-6“Y Sanctaidd, Sanctaidd, Sanctaidd Un,

Arglwydd y Lluoedd wyt dy hun.

Mae’r nefoedd fry a’r ddaear lawr

Yn orlawn o’th ogoniant mawr.”

7-8Yr apostolion, glodfawr gôr,

A llu’r proffwydi a’th fawl, ein Hiôr,

A’r holl ferthyron gwych i gyd,

A’r Eglwys sanctaidd trwy’r holl fyd:

9“Anfeidrol fawr wyt ti, O Dad,

Ac felly d’anrhydeddus Fab,

Dy wir a’th unig Fab, O Dduw,

A’r Ysbryd Glân, Ddiddanydd byw”.

10-12Ti, Grist, yw’r Brenin, Mab y Tad,

Gwaredwr byd, o’r Wyryf fad.

Pan drechaist angau a’i rym ef,

Agoraist inni deyrnas nef.

13-14Tydi sy’n eistedd yn dy le

Yn llewyrch Duw, ar ei law dde,

Yr ŷm yn credu mai Tydi

A ddaw yn Farnwr arnom ni.

15-16Gan hynny, cynorthwya’r rhai

A brynaist ti â’th waed di-fai.

Rho iddynt hwy y fythol fraint

O gael eu cyfrif gyda’th saint.

17-18Bendithia di dy bobl byth mwy,

A llywia a dyrchafa hwy.

Fe’th anrhydeddwn yn ddi-lyth,

A’th enw a glodforwn byth.

19-22Cadw ni heddiw, Arglwydd da,

Heb bechod, Arglwydd, trugarha.

Boed dy drugaredd arnom ni

Sydd yn ymddiried ynot ti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help