1-2Arglwydd, buost noddfa inni
Drwy y cenedlaethau i gyd.
Ers cyn geni y mynyddoedd
A chyn esgor ar y byd,
Ti sydd Dduw o dragwyddoldeb
Hyd at dragwyddoldeb mud.
3-6Fe wnei’n llwch yr holl ddynolryw.
Mil blynyddoedd, Arglwydd mawr,
Sydd i ti fel doe a ddarfu,
Ac fel cysgu tan y wawr.
Sgubi hwy i ffwrdd fel breuddwyd,
Neu fel crinwellt oddi ar lawr.
7-9Fe ddarfyddwn gan dy ddicter,
A’n brawychu gan dy lid.
Dodaist yng ngoleuni d’wyneb
Ein pechodau cudd i gyd.
Derfydd fel ochenaid egwan
Ein blynyddoedd yn y byd.
10-12Hyd ein hoes yw saith deng mlynedd –
Wyth deg, hwyrach – ond mae’u hyd
Yn llawn blinder, ac ânt heibio.
Pwy, fel ni, a ŵyr dy lid?
Dysg ni, felly, i gyfri’n dyddiau,
Inni fod yn ddoeth ein bryd.
13-15Am ba hyd? O Arglwydd, dychwel
At dy bobl, a thrugarhau,
A’n digoni ni â’th gariad
Nes cawn eto lawenhau.
Rho in flwyddyn o lawenydd
Am bob blwyddyn o’n tristáu.
16-17Boed yn amlwg iawn i’th weision
Dy weithredoedd mawr a’th fri.
Arglwydd Dduw, disgynned arnom
Dy raslonrwydd hyfryd di.
Llwydda waith ein dwylo inni,
Llwydda waith ein dwylo ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.