Salmau 135 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 135Canmol Duw’r cyfamodLobe den Herren 14.14.4.7.8

1-4Molwch yr Arglwydd! O molwch ef, weision yr Arglwydd,

Chwi sydd yn sefyll yn nhŷ a chynteddoedd yr Arglwydd.

Molwch ein Duw!

Jacob ac Israél yw

Trysor arbennig yr Arglwydd.

5-7Gwn fod yr Arglwydd yn fawr, ac yn well na’r holl dduwiau.

Gwna beth a fyn yn y ddaear a’r nef a’r dyfnderau.

Llunia â’i law

Fellt a chymylau a glaw,

A daw y gwynt o’i ystordai.

8-10Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft – epil dynion

Ac anifeiliaid. Anfonodd i Pharo rybuddion.

Bwriodd i’r llawr

Lawer i genedl fawr,

A lladd brenhinoedd tra chryfion:

11-12Lladd Sihon, teyrn yr Amoriaid, ac Og, brenin Basan;

Yna dinistrio holl dywysogaethau gwlad Canaan.

Rhoes eu tir hwy

I bobl Israel byth mwy

Yn etifeddiaeth a chyfran.

13-14Y mae dy enw, O Arglwydd, am byth, a’th enwogrwydd

O un genhedlaeth i’r llall, cans mi wn y daw’r Arglwydd

I gyfiawnhau

Ei bobl, a thrugarhau

Wrth ei holl weision yn ebrwydd.

15-18Arian ac aur ydyw delwau’r cenhedloedd – gwaith dynion.

Mae ganddynt lygaid a genau, ond dall ŷnt a mudion:

Clustiau heb glyw,

Ffroenau heb anadl fyw.

Bydd felly eu crëwyr yn union.

19-21Israel ac Aaron a Lefi, bendithiwch yr Arglwydd;

Chwithau, bob un sy’n ei ofni, bendithiwch yr Arglwydd;

Seion achlân

A holl Jerwsalem lân,

Molwch, bendithiwch yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help