Salmau 39 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 39Tro draw dy lid, ArglwyddSt. Michael MB

1Dywedais, “Gwyliaf rhag

Pechu âm tafod rhwydd.

Rhof ar fy ngenau ffrwyn pan fo’r

Drygionus yn fy ngŵydd.

2-3Bûm ddistaw, ond i beth?

Gwaethygu a wnaeth fy nghri;

Llosgodd fy holl deimladau’n dân

O’m mewn, ac meddwn i:

4Dysg imi, Arglwydd Dduw,

Fy niwedd; dangos di

Mor brin fy nyddiau yn y byd,

Mor feidrol ydwyf fi.

5Gwnaethost fy nyddiau i gyd

Fel dyrnfedd, ac nid yw

Fy oes yn ddim i ti, cans chwa

O wynt yw pob un byw:

6Pob un yn mynd a dod

Fel cysgod, a di-fudd

Yw’r cyfoeth a bentyrra; ni

Ŵyr pwy a’i caiff ryw ddydd.

7-8aYn awr, O Arglwydd, am

Beth y disgwyliaf fi?

Gwared fi o’m troseddau oll.

Mae ’ngobaith ynot ti.

8b-10Na wna fi’n wawd i ffŵl.

Bûm fud, a’m ceg a daw.

Ti a wnaeth hyn, a darfod rwyf

Gan drawiad llym dy law.

11-12aDrylli fel gwyfyn bawb

Pan gosbi’n pechod ni.

Yn wir, mae pawb fel chwa o wynt.

O Arglwydd, clyw fy nghri.

12b-13Pererin estron wyf,

Fel fy holl dadau i gyd.

Tro draw dy lid a’m llawenhau

Cyn imi fynd o’r byd.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help