1-2Dyweded Israel: Oddi ar
Fy mebyd lawer gwaith
Ymosodasant arnaf fi,
Ond heb fy nhrechu chwaith.
3-4Fe arddwyd cwysau ar fy nghefn
Gan lach eu ffrewyll gref,
Ond torrodd Duw eu rhaffau hwy,
Cans cyfiawn ydyw ef.
5-6O boed i bawb a roes eu cas
Ar Israel gilio o’r tir,
Fel glaswellt gwael ar doeau tai
Sy’n grin cyn tyfu’n ir.
7-8Ni fedir hwn na’i rwymo byth.
Ni ddywed undyn byw
Am gnwd fel hwn, “Bendithiwn chwi
Yn enw’r Arglwydd Dduw”.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.