1-2Gollyngi, O Dduw, dy was yn rhydd
Mewn heddwch pur yn awr,
Cans mae fy llygaid wedi gweld
Dy iachawdwriaeth fawr.
3-4Fe’i paratoaist hi yng ngŵydd
Y bobloedd oll i gyd.
Hi fydd gogoniant Israél,
Hi fydd goleuni’r byd.
Gogoniant byth a fo i’r Tad,
A’r Mab a’r Ysbryd Glân.
Fel gynt yr oedd, y mae, a bydd
Dros oesoedd diwahân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.