Salmau 127 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 127Heb Dduw, heb ddimFinlandia 10.10.10.10.10.10

1-2Os nad yw Duw yn adeiladu’r tŷ,

Waeth heb i’w adeiladwyr wneud eu gwaith;

Os nad yw’n gwylio’r ddinas ar bob tu,

Waeth heb i’r gwylwyr gadw’n effro chwaith.

Waeth heb llafurio beunydd hyd yr hwyr;

Pan fôm ynghwsg bendithia Duw ni’n llwyr.

3-5Mae plant yn wobr oddi wrth yr Arglwydd Dduw;

Ei wobr ef yw ffrwyth y groth, yn siŵr.

Fel saethau syth yn llaw rhyfelwr yw

Meibion ieuenctid dyn. Gwyn fyd y gŵr

 chawell llawn ohonynt. Perchir ef

Gan ei elynion oll ym mhorth y dref.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help