1Canwch oll i’r Arglwydd
Newydd gân, oherwydd
Gwnaeth weithredoedd odiaeth;
Cafodd fuddugoliaeth.
2Rhoddodd Duw wybodaeth
Am ei iachawdwriaeth.
Dengys ei gyfiawnder
I genhedloedd lawer.
3Deil ei serch yn ddiogel
At ei bobl, Israel.
Cafodd pob tiriogaeth
Weld ei iachawdwriaeth.
4Rhowch i Dduw wrogaeth,
Yr holl ddaear helaeth.
Canwch mewn llawenydd,
A rhowch fawl yn ddedwydd.
5-6Canwch iddo â thannau
Telyn a thympanau.
Rhowch wrogaeth ddibrin
O flaen Duw, y brenin.
7-8Rhued tir ac eigion,
A phawb o’u trigolion.
Llawenhaed y dyfroedd.
Caned y mynyddoedd.
9Cans mae Duw yn dyfod.
Barna’r ddaear isod:
Barnu’r byd yn gyfiawn,
Barnu’r bobl yn uniawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.