1-2Gwyn fyd pob un sy’n ofni Duw,
Yn cadw’i ddeddfau tra bo byw.
Cei fwyta o ffrwyth dy lafur drud,
A byddi’n hapus; gwyn dy fyd.
3Dy wraig fydd ar dy aelwyd lawn
Megis gwinwydden ffrwythlon iawn,
A’th blant o gylch dy fwrdd, yn wir,
Fel blagur olewydden ir.
4-5aBendithia Duw â’i ddwylaw gref
Y sawl sydd yn ei ofni ef.
Bendithied dithau’n hael fel hyn
O’i deml lân ar Seion fryn.
5b-6Fel y cei weld drwy d’oes bob awr
Jerwsalem yn llwyddo’n fawr,
A gweld holl blant dy blant i gyd.
Boed hedd ar Israel o hyd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.