Salmau 45 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 45Priodas y breninMontgomery 11.11.11.11

1Symbylwyd fy nghalon gan neges sydd braf,

Ac adrodd fy nghân am y brenin a wnaf,

Ac y mae fy nhafod yn llithro mewn hoen,

Fel pin ysgrifennydd yn llithro dros groen.

2-3Does undyn mor deg ag wyt ti, ac mae gras

Yn disgyn o’th wefus; bendithiwyd dy dras.

O gwisga, ryfelwr, dy gledd ar dy glun;

 mawredd gogoniant addurna dy hun.

4-5Marchoga o blaid beth sy’n gyfiawn a gwir;

Dangosed dy nerth fod llaw Duw yn y tir.

Dy saethau yng nghalon d’elynion sydd llym,

Syrth pobloedd o danat yn gwbl ddi-rym.

6-7Tragwyddol dy orsedd, fel gorsedd ein Duw,

A gwialen cyfiawnder dy deyrnwialen yw.

Am wrthod y drwg, rhoi cyfiawnder mewn bri,

Ag olew llawenydd eneiniodd Duw di.

8-9Myrr, aloes a chasia dy ddillad i gyd,

Telynau tai ifori’n canu iti o hyd;

Mae tywysogesau’n dy lys mawr ei foeth,

A’th wraig wrth dy ochor mewn aur Offir coeth.

10-11O gwrando di, ferch, a rho sylw er llesâd:

Anghofia dy bobl, a chartref dy dad;

A’r brenin a chwennych dy degwch yn siŵr,

Oherwydd ef ydyw dy arglwydd a’th ŵr.

12-13Ferch Tyrus, ymostwng i’r brenin â rhodd,

A braint cyfoethogion fydd rhyngu dy fodd.

Mor wych yw’r frenhines sy’n dyfod i’n mysg,

A chwrel mewn aur yn addurno ei gwisg.

14-15Mewn brodwaith fe’i dygir yn rhwysgfawr i’th ŵydd,

A’i holl gyfeillesau’n cyflawni eu swydd,

Yn dilyn o’i hôl hi yn ysgafn eu bron

I balas y brenin yn hapus a llon.

16-17Yn lle bu dy dadau daw meibion i ti,

A thithau a’u gwnei’n dywysogion o fri.

A minnau, mynegaf byth bythoedd dy glod:

Bydd pobl yn dy ganmol tra bo’r byd yn bod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help