1Fel y blysia ewig
Am y dyfroedd byw
Y dyhea f’enaid
Innau am fy Nuw.
2Mae ar f’enaid syched
Am fy Arglwydd byw;
Pa bryd y caf brofi
Presenoldeb Duw?
3Ddydd a nos bu ’nagrau’n
Fwyd i mi a’m clyw’n
Llawn o holi’r gelyn:
“Ple y mae dy Dduw?”
4Gofid ydyw cofio
Mynd mewn torf lawn hwyl
I dŷ Dduw dan ganu:
Tyrfa’n cadw gŵyl.
5Na thristâ, fy enaid,
Ac na thyrfa’n awr!
Wrth Dduw y disgwyliaf,
Fy ngwaredydd mawr.
6Na thristâ, fy enaid.
Cofiaf Dduw o dir
Hermon a Bryn Misar
A’r Iorddonen ir.
7Dyfnder eilw ar ddyfnder
Dy raeadrau di.
Mae dy fôr a’i donnau
Wedi’m llethu i.
8Liw dydd ei ffyddlondeb
A orchymyn Duw.
Liw nos canaf weddi,
Duw fy mywyd yw.
9Duw, fy nghraig, a holaf,
“Pam f’anghofio fi?
Pam fy rhoi dan orthrwm?
Pam tristáu fy nghri?”
10Dirmyg fy ngelynion,
Cledd yn f’esgyrn yw.
Di-baid y gofynnant,
“Ple y mae dy Dduw?”
11Na thristâ, fy enaid,
Ac na thyrfa’n awr!
Molaf fy Nuw eto,
Fy ngwaredydd mawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.