Salmau 116 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 116Beth a dalaf i’r Arglwydd?Breslau MH

1-3Rwy’n caru Duw am iddo ef,

Pan waeddais, wrando ar fy llef.

Amdanaf yr oedd ing yn cau

A chlymau angau yn tynhau.

4-5Ar enw’r Arglwydd gelwais i:

“Rwy’n erfyn, Arglwydd, gwared fi”.

Yr Arglwydd, da a chyfiawn yw,

A llawn tosturi yw ein Duw.

6-7Fe geidw Duw rai syml y byd.

Gwaredodd fi o’m poenau i gyd.

Caf orffwys, lle bûm gynt yn wael,

Cans wrthyf fi bu Duw yn hael.

8-9Gwaredodd fi rhag angau du,

Fy llygaid pŵl rhag dagrau lu,

Fy nhraed rhag baglu. Gerbron Duw

Caf rodio mwy yn nhir y byw.

10-11Yr oeddwn gynt ar lan y bedd,

A chystudd trwm yn hagru ’ngwedd;

Ac meddwn wrthyf fi fy hun,

“Twyllodrus ydyw cymorth dyn”.

12-13Pa beth a dalaf fi yn awr

I Dduw am ei haelioni mawr?

Mi godaf gwpan fy iachâd

A galw’i enw mewn coffâd.

14-15Mi dalaf f’addunedau i Dduw

Yng ngŵydd ei bobl oll. Nid yw

Marwolaeth ei ffyddloniaid ef

Yn fater bach i Dduw y nef.

16-17Yn wir, O Arglwydd, rwyf o dras

Dy weision di; rwyf finnau’n was.

Datodaist fy holl rwymau i.

Rhof aberth diolch nawr i ti.

18-19Mi dalaf f’addunedau i Dduw

Yng ngŵydd ei bobl ac yn eu clyw,

Yn nheml yr Arglwydd uchel-drem,

Dy ganol di, Jerwsalem.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help