Salmau 100 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 100Rhowch wrogaeth i’r ArglwyddBelmont MC

1-2O rhowch wrogaeth, yr holl fyd,

Ynghyd i’r Arglwydd glân.

Ei foliant rhowch yn llon ar daen,

A dewch o’i flaen â chân.

3Gwybyddwch mai yr Arglwydd yw

Y Duw a’n gwnaeth bob un,

A ninnau’n ddefaid ei borfeydd,

Ei bobl, ei eiddo’i hun.

4Â diolch dewch i mewn i’w byrth,

A chydag ebyrth mawl.

Diolchwch, a bendithiwch Dduw,

Cans dyna yw ei hawl.

5Oherwydd da yw’r Arglwydd byth;

Di-lyth ei gariad ef,

A phery ei ffyddlondeb hyd

Y pery’r byd a’r nef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help