1Fe ddywedodd y rhai ynfyd,
“Nid oes Duw”.
Ffiaidd yw
Eu gweithredoedd bawlyd.
2Gwyrodd Duw o’i nef i chwilio
A oedd un
Ar ddi-hun
A oedd yn ei geisio.
3Ond mae pawb yn cyfeiliorni.
Nid oes neb,
Nac oes, neb,
Sydd yn gwneud daioni.
4Gwnânt bryd bwyd o’m pobl anghenus.
Oni bydd
Cosb ryw ddydd
Ar y rhai drygionus?
5Cywilyddier y dihirod.
Arnynt daw
Ofn a braw
Am i Dduw eu gwrthod.
6Pan adferir i’r iselwael,
Lwydd a budd,
Mawr iawn fydd
Gorfoleddu Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.