Salmau 120 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 120Gweddi am heddwchLlantrisant 88.88

1-2Gwaeddais ar yr Arglwydd tyner,

“Tyrd i’m gwared o’m cyfyngder,

Rhag y genau drwg, twyllodrus,

A rhag tafod sy’n enllibus”.

3-4Beth yn fwy a roddaf iti,

Dafod drwg sy’n fy nifenwi?

Rwyt fel saethau llym rhyfelwr,

Marwor eirias yw dy ddwndwr.

5Gwae fy mod i yn ymdeithio

Yn nhir Mesach, ac yn trigo

Ymysg pebyll alltud Cedar,

Ymhlith pobl estron, anwar.

6-7Yn rhy hir bûm fyw mewn dryswch

Gyda’r rhai na charant heddwch.

Yr wyf fi am heddwch tawel,

Ond maent hwythau’n mynnu rhyfel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help