Salmau 114 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 114Cryned y ddaear gerbron DuwCamberwell 65.65.D

1-2Pan ddaeth Israel allan

Gynt o wlad yr Aifft,

O blith pobl estron,

Rhai â dieithr iaith,

Rhoes yr Arglwydd Jwda’n

Gysegr iddynt hwy,

A thir Israel ydoedd

Eu harglwyddiaeth mwy.

3-4O weld hyn, fe giliodd

Tonnau’r môr, a throdd

Yr Iorddonen hithau

Yn ei hôl o’i bodd.

Neidiodd y mynyddoedd

Megis hyrddod ffôl;

Pranciodd yr holl fryniau

Megis ŵyn ar ddôl.

5-6Beth sydd arnoch, donnau’r

Môr, eich bod yn ffoi?

Tithau, li’r Iorddonen,

Pam dy fod yn troi?

Pam yr ydych, fryniau,

A’r mynyddoedd mwy’n

Neidio megis hyrddod,

Prancio megis ŵyn?

7-8Cryna di, O ddaear,

Rhag yr Arglwydd Dduw;

Cryna rhag Duw Jacob,

Cans ofnadwy yw.

Ef yw’r Un sy’n gallu

Troi y graig yn llyn,

Ac o’r gallestr galed

Ddwyn ffynhonnau gwyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help