1-2Mi dremiaf i’r entrychoedd
Atat ti,
Sy’n eistedd yn y nefoedd,
Atat ti.
Fel y mae llygaid gweision
A llygaid caethforynion
Yn gwylio llaw’r meistradon,
Gwyliwn di,
Nes deui, Arglwydd graslon,
Atom ni.
3-4O bydd dugarog wrthym,
Arglwydd Dduw.
Tyrd i’n gwaredu’n gyflym,
Arglwydd Dduw.
Oherwydd cawsom ddigon
O wawd a dirmyg beilchion
Ac amarch cyfoethogion,
Arglwydd Dduw.
O trugarha yr awron,
Arglwydd Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.