Salmau 77 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 77Pa dduw mor fawr â’n Duw ni?Morning has broken 10.9.10.9

1-2Gwaeddais yn daer ar Dduw, ac fe’m clywodd.

Ceisiais yr Arglwydd yn nydd fy mhoen –

Estyn fy nwylo’n ddiflino ato.

Nid oedd i’m henaid gysur na hoen.

3-6Pan wyf yn meddwl am Dduw, rwy’n cwyno.

Cedwaist fi oriau’r nos ar ddi-hun.

Cofiaf y dyddiau gynt, a myfyriaf,

Ac yn fy ing fe’m holaf fy hun:

7-8“A fydd fy Nuw am byth yn fy ngwrthod,

A chadw’i ffafr oddi wrthyf byth mwy?

Beth am ei gariad a’i addewidion:

Pa hyd y pery i’w hatal hwy?

9-10A fwriodd Duw o’i gof bob trugaredd,

A chloi’i dosturi yn ei lid llym?”

Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:

Collodd deheulaw’r Arglwydd ei grym”.

11-13Galwaf i gof weithredoedd yr Arglwydd.

O Dduw, meddyliaf am dy waith di.

Sanctaidd dy ffordd, yn gwneud rhyfeddodau.

Pa dduw mor fawr ag yw ein Duw ni?

14-16Ti yw y Duw sy’n gwneud pethau rhyfedd.

Cedwaist â’th fraich blant Israel yn fyw.

Gwelodd y dyfroedd di, ac arswydo;

Crynodd o’th flaen y dyfnder, O Dduw.

Roedd y ffurfafen fry yn taranu,

A fflachiodd saethau’r mellt ar bob llaw,

17-18Ac fe ddisgynnodd dŵr o’r cymylau.

Crynodd y ddaear gyfan mewn braw.

19-20Fe aeth dy ffyrdd drwy’r môr a’i lifddyfroedd,

Eithr ni welwyd dim oll o’th ôl.

Ti a’n harweiniaist, trwy gyfarwyddyd

Moses ac Aron, fel praidd ar ddôl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help