1-2Dewch, canwn oll yn llon i Dduw,
Cans craig ein hiachawdwriaeth yw.
 diolch down i’w deml lân,
A rhown wrogaeth iddo ar gân.
3-4Oherwydd mawr yw’r Arglwydd Dduw;
Brenin goruwch y duwiau yw.
Ef biau ddyfnder daear lawr
Ac uchder y mynyddoedd mawr.
5-6aEf biau’r môr, ac ef a’i gwnaeth;
Y sychdir oll, o drum i draeth,
A greodd ef â’i ddwylo hud.
Dewch, ac addolwn ef ynghyd.
6b-7aI’r Arglwydd plygwn, cans ef yw
Yr un a’n gwnaeth; ef yw ein Duw,
A ninnau’n bobl iddo ef,
Yn ddefaid ar borfeydd y nef.
7b-8O wrando ar ei lais, fe gewch
Ei rym, ond nac anufuddhewch,
Fel eich cyn-dadau ar eu hynt
Yn llwch Meriba a Massa gynt.
9-11“Profasant fi, er gweld fy ngwaith.
Dros ddeugain mlynedd blin eu taith
Ffieiddiais hwy, a’u her a’u brad,
A dweud na chaent feddiannu’r wlad.”
I’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân
Bydded gogoniant byth ar gân;
Fel yr oedd gynt, ac mae yn awr,
Y bydd hyd dragwyddoldeb mawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.