Salmau 113 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 113Pwy sydd fel yr Arglwydd?Hengoed 10.7.7.7.9

1-3Molwch yr Arglwydd, weision yr Arglwydd;

Molwch ef tra byddoch byw.

O gyfodiad haul hyd wawl

Ola’r machlud, traethwch fawl

A bendigwch yr Arglwydd ein Duw.

4-6Uchel yw’r Arglwydd, uwch y cenhedloedd,

Uwch ei ogoniant na’r nef.

Uchel yw ei orsedd fawr,

Eto i gyd, mae’n gwyro i lawr

At yr isel. Pwy’n wir sydd fel ef?

7-9Cwyd rai mewn angen o lwch y domen

At dywysogion i fyw.

Teulu i’r wraig ddi-blant a rydd,

A mam falch i feibion fydd.

Molwch, molwch yr Arglwydd ein Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help