Salmau 40 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 40Paid ag oedi, ArglwyddWilton Square 76.76.D

1-2Fe fûm yn disgwyl, disgwyl

Wrth Dduw, ac yna daeth;

Fe blygodd i lawr ataf,

A gwrando ’nghri a wnaeth.

Fe’m cododd o’r pwll lleidiog,

Allan o’r mwd a’r baw,

A gwneud fy nghamau’n ddiogel

Ar graig ddiysgog draw.

3-4Fe roddodd im gân newydd

I’w foli yn ei glyw.

Pan welant, ofna llawer

A rhoi eu ffydd yn Nuw.

Gwyn fyd pawb sy’n ymddiried

Yn Nuw, ein craig, o hyd,

Ac nad yw’n troi at feilchion

Na duwiau gau y byd.

5O mor niferus, Arglwydd,

Dy ryfeddodau di

A’th fwriad ar ein cyfer;

Does neb, yn wir, fel ti.

Dymunwn eu cyhoeddi

A’u hadrodd wrth y byd,

Ond maent yn rhy niferus

I’w rhifo oll i gyd.

6-8Nid wyt yn hoffi aberth

Nac offrwm neb heb fod

Y person hwnnw’n ufudd.

Dywedais, “Rwyf yn dod,

Mae wedi ei ysgrifennu

Mewn llyfr amdanaf fi

Fy mod yn gwneud d’ewyllys

Yn ôl dy gyfraith di.”

9-10Cyhoeddais i gyfiawnder

I’r gynulleidfa i gyd;

Fe wyddost ti, O Arglwydd,

Na bûm erioed yn fud.

Ni chelais dy ffyddlondeb,

Ond traethais bob yr awr

Dy gariad a’th wirionedd

I’r gynulleidfa fawr.

11-12Paid tithau, Dduw, ag atal

Tosturi rhagof fi,

Ond cadwer fi’n dy gariad

A’th fawr wirionedd di.

Mae drygau dirifedi’n

Cau drosof megis llen,

Camweddau yn fy nallu,

A’u rhif fel gwallt fy mhen.

13-15Bydd fodlon i’m gwaredu,

O Arglwydd; brysia di

I’m helpu. Cywilyddia

Bawb a wnâi ddrwg i mi;

A phawb y mae ’nhrallodion

Yn llonni’u calon hwy,

Syfrdana di’r rhai hynny

 rhyw waradwydd mwy.

16-17Ond llawenhaed yn wastad

Bawb sy’n dy geisio di.

Dyweded pawb a’th garo,

“Mawr yw fy Arglwydd i”.

Meddylia Duw amdanaf,

Er ’mod i’n dlawd yn wir;

Dduw ’nghymorth a’m gwaredydd,

O paid ag oedi’n hir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help