Salmau 43 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 43Pam fy ngwrthod i?Filitz (Wem in Leidenstagen) 65.6

1Cyfiawnha fi, Arglwydd,

F’achos dadlau di;

Rhag rhai drwg, annheyrngar

Tyrd i’m gwared i.

2Ti yw fy amddiffyn.

Pam fy ngwrthod i?

Pam fy rhoi dan orthrwm?

Pam tristáu fy nghri?

3Anfon dy wirionedd

A’th oleuni i mi.

Dygant hwy fi i fynydd

Dy lân drigfan di.

4Yna dof at d’allor.

Fy llawenydd yw

Dy foliannu â’r delyn,

Ti, O Dduw, fy Nuw.

5Na thristâ, fy enaid,

Ac na thyrfa’n awr!

Molaf fy Nuw eto,

Fy ngwaredydd mawr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help